Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (83)v3 |
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (10 munud)
|
3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (0 munud)
Ni chyflwynwyd unrhyw gwestiynau |
4. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5049 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn gresynu nad yw ‘Rhaglen Lywodraethu’ Llywodraeth Cymru yn cyflawni i bobl Cymru.
Gellir gweld y Rhaglen Lywodraethu drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/strategies/110929fullcy.pdf Gellir gweld Adroddiad Blynyddol – Mai 2012 y Rhaglen Lywodraethu drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/strategies/120528fullcy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi mai un o nodau’r Rhaglen Lywodraethu yw ‘lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol’, ac yn credu y dylai hyn fod yn flaenoriaeth dros y flwyddyn nesaf.
|
5. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5050 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’; 2. Yn cydnabod gwerth caffael cyhoeddus i economi Cymru; 3. Yn nodi bod diweithdra hirdymor ymhlith pobl ifanc wedi cynyddu bedair gwaith bron dros y flwyddyn ddiwethaf; a 4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol er mwyn rhoi hwb i’r economi: a) gwneud polisi caffael yn fwy agored i gwmnïau yng Nghymru; a b) cynyddu gwariant ar brosiectau seilwaith.
Gellir gweld adroddiad McClelland ‘Gwneud y Gorau o Bolisi Caffael Cymru’ drwy fynd i: http://cymru.gov.uk/docs/dpsp/publications/valuewales/120919mcclellandreviewfullfinalcy.pdf
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu is-bwynt 4b a rhoi yn ei le: gweithio'n agos â Llywodraeth y DU i fanteisio i’r eithaf ar brosiectau seilwaith, fel trydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4: gwneud prosesau caffael yn fwy agored i fusnesau bach a chanolig yng Nghymru drwy ddadfwndelu contractau ar gyfer gwaith y Llywodraeth.
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hyrwyddo arferion gorau mewn prosesau caffael.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd diwydiant adeiladu Cymru wrth roi prentisiaethau i bobl ifanc yng Nghymru. |
6. Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud)
NDM5048 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu rheoleiddiwr cymwysterau ac arholiadau annibynnol i Gymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi pwysigrwydd didueddrwydd gwleidyddol wrth reoleiddio cymwysterau ac arholiadau.
|
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5051 Rebecca Evans (Canolbarth a Gorllewin Cymru):
Lles anifeiliaid adeg eu lladd
Archwilio cyfleoedd i hybu arfer da a safonau uchel o les anifeiliaid adeg eu lladd. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 2 Hydref 2012